BYWYD ALLEN RAINE

 Yr oedd Allen Raine,  a anwyd Anne Adeliza Evans yng Nghastell Newydd Emlyn ar Hydref 6ed. 1836,  yn nofelydd boblogaidd fyd-eang. Gwerthwyd dros 2 filiwn o’i llyfrau ym Mhrydain , Awstralia, Canada, heb son am y farchnad Americanaidd. Roedd cynnwys ei storiau wastad yn seiliedig ar Gymru a’r arfordir o gwmpas Tresaith a thref Castell Newydd Emlyn lle’i magwyd. Tyddynwyr, pysgotwyr, ffermwyr, aelodau’r dosbarth canol, gweinyddol – yr oedd ei chymeriadau yn adlewyrchu cymdeithas wledig gymysg y 19ed. Ganrif yr oedd yn byw ynddi.

 
EI GWAITH

Er iddi ysgrifennu yn Saesneg, defnyddiodd  y Gymraeg yn gyson yn ei gwaith, gan roi dywediad neu ymadroddiad llafar yng nghegau ei  chymeriadau.  Yr oedd ei darlun o Gymru, yr iaith a’r bobol, wastad yn hoffus ac yn bositif ac o ganlyniad fe ‘i galwyd yn “lladmerydd ei wlad(sic)” gan un adolygydd. Oherwydd bod y llyfrau yn trin cariad a chariadon yn bennaf, maent yn cael ei ystyried yn “rhamantus” ; ond mae archwiliad o fanylion cefndirol y storiau yn dangos cymlethdodau a phwysau diwylliannol a chymdeithasol sydd yn lliwio dewisiadau personol yr arwr ac arwres.  Yn ogystal a chreu dyfnder i’r stori, mae’r manyldeb hyn hefyd yn ffynnonell gwybodaeth i’r hanesydd.

Symudodd Anne i Lundain ar ol priodi Beynon Puddicombe yn Eglwys Penbryn yn 1872  ac yna wnaeth hi droi yn ALLEN RAINE, pan gyhoeddodd “A Welsh Singer” yn 1896, ar ol rhannu’r wobr gyntaf am nofel (Ynysoer) yn Eisteddfod Caernarfon yn 1894. Dychwelodd i’r ardal rhywbryd ar ol 1897, pan wnaethon nhw adeiladu Bron y Mor, Tresaith ar gyfer ymddeoliad ei gwr. Ni chafodd fywyd hawdd: roedd Beynon yn dioddef o iselder meddyliol difrifol a bu rhaid iddo gyflogi “gofalwr” i’w warchod , tra roedd hi ei hunan yn dioddef o gansar ar y fron , gan farw o’i salwch yn 1908.

 Serch hynny, wnaeth ei llyfrau gyrraedd cynnulleidfa eang ac fe addaswyd tri o’i nofelau i ffilm – Torn Sails (1915), A Welsh Singer ( 1920) a By Berwen Banks (1920). Ffilmiwyd Torn Sails yn Llangrannog a’r Cei Newydd, Ceredigion ac fe saethwyd By Berwen Banks yng Nghastell Newydd Emlyn, yn ol yr hanes. Mae’n debyg bod y ffilmiau wedi eu “colli”, h.y. ddim yn bod mwyach, ond mae ei storiau yn dal yn fyw. Cyfieithwyd “On the Wings of the Wind” i’r Wyddeleg (1932), Ffrangeg (1946), Gymraeg  ( Lle Treigla’r Don 1960 a Garthowen, 1968)ac  yn ddiweddar i’r Rwsieg ( Garthowen – we- gyhoeddiad/ prosiect Gutenburg). Mae gweisg fel Honno a Dodo Press Collectibles hefyd wedi ailgyhoeddi rhywfaint o’i gwaith.